P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Hannah Albrighton, ar ôl casglu cyfanswm o 7,326 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

​Oherwydd COVID-19, mae cyfyngiadau mewn llawer o ysbytai ar bresenoldeb partneriaid genedigaeth ar gyfer sganiau, esgor a genedigaeth.

Nid yw’r pwnc hwn wedi cael ei adolygu rhyw lawer, os o gwbl.

Mae'n ymddangos yn annheg ac yn sarhad ar deuluoedd newydd eu bod yn cael sefyll 2 fetr oddi wrth ddieithriaid llwyr ar y traeth neu mewn siop hyd yn oed, ond nid ydynt yn cael partner na phartner genedigaeth yn bresennol i rannu profiadau tro cyntaf megis gweld sgan, clywed calon y babi, esgor a genedigaeth.

Mae angen i hyn newid.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Castell-nedd

·         Gorllewin De Cymru